Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Mostyn yn cyhoeddi Cyfarwyddwr newydd

Heddiw mae Mostyn, yn Llandudno, Cymru yn cyhoeddi eu Cyfarwyddwr newydd, a fydd yn dechrau yn y swydd ddechrau 2026. Bydd Adam Lewis-Smythe yn ymuno â Mostyn o Bluecoat yn Lerpwl.

“Rwyf wrth fy modd yn ymuno â Mostyn i helpu i arwain oriel sydd wedi golygu cymaint i mi yn bersonol. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn ymweld â Mostyn dros y blynyddoedd; mae ei rhaglen uchelgeisiol, ei harddangosfeydd meddylgar a’i hymrwymiad i artistiaid i gyd wedi chwarae rhan sylweddol wrth lunio fy ngwerthfawrogiad o’r celfyddydau a’r diwylliant. Byddaf yn gweithio’n galed i barhau â’i hetifeddiaeth o gyflwyno celf o’r radd flaenaf, a sicrhau bod y sgyrsiau y mae’n eu sbarduno yn parhau i fod yn berthnasol i fywydau pobl ledled Llandudno, Cymru a thu hwnt.

Mae Mostyn yn ased hanfodol i artistiaid yng Nghymru, lle gallant greu, mentro a gweld eu gwaith mewn deialog â chelf gan artistiaid rhyngwladol. Dros y degawd diwethaf rwyf wedi cael fy ysgogi i helpu artistiaid i ddod o hyd i ffyrdd newydd o greu cysylltiadau ystyrlon â chynulleidfaoedd. Edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith hwn ym Mostyn.” meddai Adam Lewis Smythe.

Dywed Jeremy Salisbury, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Mostyn, “Fel Bwrdd, rydym wedi mynd trwy broses drylwyr wrth ddewis ein Cyfarwyddwr newydd. Rydym wrth ein bodd bod Adam yn ymuno â ni o Bluecoat, lle gwyddom ei fod yn cael ei ystyried yn uchel iawn. Credwn y bydd yn dod â gweledigaeth a chreadigrwydd gydag ef ac y bydd yn ychwanegiad arwyddocaol iawn at ein tîm gwych ym Mostyn. Mae ein cyffro wrth benodi Adam wedi’i liwio â thristwch mawr am ymadawiad Clare Harding, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Dros Dro gwych i ni, ar ôl camu i’r rôl yn dilyn ymadawiad Alfredo Cramerotti ddwy flynedd yn ôl. Mae Clare wedi rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i ni ac wedi helpu i ddatblygu ein pobl mewn ffordd gadarnhaol iawn. Rydym i gyd yn drist iawn o’i gweld hi’n mynd ac rydym yn dymuno’r gorau iddi yn ei rôl newydd. Mae hi’n gadael gyda’n diolch a’n gwerthfawrogiad dwfn.”

Ers 2015 mae Adam Lewis-Smythe wedi gweithio yn Bluecoat, Lerpwl, yn rolau Curadur, Pennaeth Dros Dro Rhaglen, ac Uwch Guradur. Mae’r uchafbwyntiau wedi cynnwys comisiynau parhaol yn yr adeilad gan Harold Offeh, Babak Ganjei a Sumuyya Khader fel rhan o ddatblygiad cyfalaf yn 2020, a churadu arddangosfeydd gydag artistiaid fel Paddy Gould a Roxy Topia (2024), Dahong Hongxuan Wang (2024), Michelle Williams Gamaker (2024), Alevtina Kakhidze (2023), Grace Ndiritu (2019), a Jade de Montserrat (2018). Cyn Bluecoat, cyd-sefydlodd a chyd-gyfarwyddodd Lewis-Smythe The Lombard Method, gofod dan arweiniad artistiaid yn Birmingham. Mae cyhoeddiadau wedi cynnwys The ark: Center for Interdisciplinary Experimentation, Grace Ndiritu (gol. A. Smythe 2019) a The Standard Model (gol. N. Aarle L.Lopez, A. Smythe 2015).

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr