Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Cyfres Podlediad McKenzie Wark: The Artist-Publisher. Cyflwyniad gyda Juliette Desorgues

Podlediad

MOSTYN · McKenzie Wark Podcast series: The Artist-Publisher. Introduction with Juliette Desorgues

Gall cyhoeddi hefyd fod yn fath o arfer celf. Yn y gyfres podlediadau The Artist-Publisher, mae McKenzie Wark yn siarad ag artistiaid sydd hefyd yn gyhoeddwyr a chyhoeddwyr y mae eu gwaith yn fath o arfer celf. Cylchgronau a llyfrau, wedi’u gwneud yn rhad neu yn eu miloedd, neu gyfnodolion ar y we sydd ar gael am ddim – mae’r rhain yn ymddangos yn wrthgyferbyniol i’r gwaith celf unigryw. Ac eto mae creu ystyr o amgylch arferion celf yn gofyn am y math arall hwn o arfer o gyhoeddi gweithiau ysgrifenedig.

Ymhlith y cyfranwyr mae Julieta Aranda, Jacqueline de Jong, Deluge Books, Hedi El Kholti a GB Jones. Mae’r gyfres yn cynnwys cyflwyniad gyda Juliette Desorgues.

McKenzie Wark yw’r awdur, ymhlith pethau eraill, o Philosophy for Spiders: on the low theory of Kathy Acker (Duke University Press 2021) a The Beach Beneath the Street: the Everyday Life and Glorious Times of the Situationist International (Verso 2011). Mae hi’n athro diwylliant a’r cyfryngau yn The New School yn Ninas Efrog Newydd.

Curadur ac awdur yw Juliette Desorgues. Mae hi ar hyn o bryd yn Guradur Celfyddydau Gweledol ym MOSTYN. Mae hi wedi gweithio fel Curadur Cyswllt yn yr Institute of Contemporary Arts, Llundain ac wedi dal swyddi curadurol yn oriel y Barbican, Llundain a Generali Foundation, Fienna. Astudiodd Hanes Celf ym Mhrifysgol Caeredin, Prifysgol Fienna a University College London.

Dyluniad graffig: Kévin Blinderman
Cymorth Technegol: Sableradio
Cefnogir gan Borzello a Garfield Weston

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr