Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Cyfres Podlediad McKenzie Wark: The Artist-Publisher Mewn sgwrs gyda Deluge Books

Podlediad

MOSTYN · McKenzie Wark Podcast series: The Artist-Publisher. In conversation with Deluge Books

 

Gall cyhoeddi hefyd fod yn fath o arfer celf. Yn y gyfres podlediadau The Artist-Publisher, mae McKenzie Wark yn siarad ag artistiaid sydd hefyd yn gyhoeddwyr a chyhoeddwyr y mae eu gwaith yn fath o arfer celf. Cylchgronau a llyfrau, wedi’u gwneud yn rhad neu yn eu miloedd, neu gyfnodolion ar y we sydd ar gael am ddim – mae’r rhain yn ymddangos yn wrthgyferbyniol i’r gwaith celf unigryw. Ac eto mae creu ystyr o amgylch arferion celf yn gofyn am y math arall hwn o arfer o gyhoeddi gweithiau ysgrifenedig.

Ymhlith y cyfranwyr mae Julieta Aranda, Jacqueline de Jong, Deluge Books, Hedi El Kholti a GB Jones. Mae’r gyfres yn cynnwys cyflwyniad gyda Juliette Desorgues.

McKenzie Wark yw’r awdur, ymhlith pethau eraill, o Philosophy for Spiders: on the low theory of Kathy Acker (Duke University Press 2021) a The Beach Beneath the Street: the Everyday Life and Glorious Times of the Situationist International (Verso 2011). Mae hi’n athro diwylliant a’r cyfryngau yn The New School yn Ninas Efrog Newydd.

Mae Deluge Books yn wasg cwiar arbrofol dorfol newydd. Gan chwalu’r rhaniad rhwng gwaith llenyddol cysyniadol a mwydion gorddarllenadwy, rydym yn gwneud llyfrau blaengar sy’n hwyl i’w darllen.Dyluniad graffig: Kévin Blinderman

Cymorth Technegol: Sableradio
Cefnogir gan Borzello a Garfield Weston Foundation

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr