Paul Eastwood: Dad-ddarlleniadau

Mae Dad-ddarlleniadau (14 Mawrth 2026 – 20 Mehefin 2026) yn cyflwyno corff newydd o waith gan yr artist Paul Eastwood, sydd wedi’i leoli yng Nghymru, sy’n archwilio iaith fel deunydd a safle brwydrau. Gan dynnu ar ei brofiad bywyd fel artist dwyieithog dyslecsig a niwrowahanol, mae Eastwood yn trawsnewid cam-gyfathrebu, camddarllen, camsillafu a cham-ynganu yn strategaethau creadigol. Mae’r arddangosfa’n dwyn ynghyd weithiau ar bapur, cerflunio, delwedd symudol a sain i ymchwilio i sut mae iaith yn llunio hunaniaeth, cof a pherthyn. Drwy ddatgelu’r llafur, y negodi a’r ansicrwydd sydd wedi’i wreiddio mewn ysgrifennu, mae Dad-darlleniadau yn gwahodd gwylwyr i ystyried sut mae ystyr yn cael ei adeiladu, ei amharu a’i ail-greu.
Mae’r gwaith newydd hwn, a gyflwynir yn Oriel Mostyn, yn parhau ag arfer Eastwood o weithio gyda chydweithwyr hirdymor a rhai newydd: Samuel Barnes, cyfansoddwr; Dr Angharad Harrop, coreograffydd; Eilir Pierce, cyfarwyddwr ffilm; a Dr Sara Lewis Wheeler, darlithydd a bardd.



