Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Sicrwydd Ansawdd Ym Mostyn

Cynhaliodd Croeso Cymru arolygiad Sicrhau Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr ac maent wedi cadarnhau bod Mostyn yn parhau i fod yn ‘Atyniad Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd’ yng Nghymru, gyda sgôr o 90%.

Gan ystyried 29 pwynt asesu ar gyfer cynnig ffisegol Mostyn a 7 i’r tîm o staff, dywedodd yr aseswr fod yr argraffiadau cyntaf yn “drawiadol iawn, i mewn ac allan”, y cyfarchiad cyfeillgar a chroesawgar a gafodd, y cynnig manwerthu “ardderchog” a’r arddangosfeydd celf drawiadol ond hygyrch. Derbyniodd caffi’r Oriel ganmoliaeth hefyd am yr amrywiaeth o seigiau, glanweithdra a’r cynnyrch lleol sydd ar gael.

Dywedodd Clare Harding, Pennaeth Marchnata a Datblygiad ym Mostyn “Nid yw ymweliadau asesu wedi bod yn bosibl dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf oherwydd pandemig COVID, felly roeddem yn falch iawn o gyflawni ein sgôr uchaf erioed eleni. Rydym yn falch iawn o’r ffaith bod nifer ein hymwelwyr bron yn ôl i lefelau cyn-bandemig, ac rydym yn parhau i fod ar agor i bawb, gyda’n harddangosfeydd yn parhau i fod am ddim. Rydym wrth ein bodd bod ansawdd ein cynnig wedi’i gydnabod yn gyffredinol, ac yn gwerthfawrogi’n fawr y cyngor a’r gefnogaeth adeiladol a ddarparwyd gan Croeso Cymru fel rhan o’u hasesiad”.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr