
Mae Mostyn yn gyffrous i ddadorchuddio rhaglen Isdyfiant / Undergrowth, sy’n blodeuo rhwng Gwanwyn a diwedd Haf 2023.
Nod y prosiect yw cefnogi a gwella iechyd corfforol a meddyliol trwy alluogi pobl i gysylltu â byd natur trwy weithgareddau creadigol: cyfres o ddigwyddiadau am ddim, a gynhelir yn yr oriel; preswyliad artist cymunedol ym Mhenmachno; a rhaglen iechyd a lles gaeedig a fydd yn digwydd ar draws Gogledd Cymru.
Ym Mostyn, mae rhywbeth i’r person naturiol chwilfrydig mewn rhaglen o ddigwyddiadau am ddim a gynhelir rhwng mis Mai a mis Awst. O greu cerfluniau synhwyraidd gwisgadwy i grefftio Angenfilod Bach i leddfu pryderon dyddiol, mae cyfle i fod yn greadigol gydag artistiaid a gwneuthurwyr. Mynd allan i’r awyr agored, bydd Mostyn hefyd yn fan cychwyn ar gyfer nifer o deithiau cerdded a gwibdeithiau, a fydd yn amsugno tirweddau Ynys Môn, Coedwig Gwydir, a’r Gogarth. Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyn a thocynnau am ddim yn cael eu rhyddhau ar wefan Mostyn a’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
Ym Mhenmachno, yn Nyffryn Machno, bydd yr artist Kristin Luke yn preswylio yn Oriel Machno i ddatblygu cyfres o weithgareddau yn ymwneud ag ecoleg, yr amgylchedd a chynaliadwyedd, a gynhelir dros fis Mai a mis Mehefin. Unwaith yn siop y pentref ac yn ystafell dywyll ar gyfer prosesu negatifau ffotograffig i’r gymuned, bu Oriel Machno yn wag am ddegawdau. Yn 2022, fe wnaeth Luke, y gymuned a thîm o wirfoddolwyr ymroddedig ailagor y gofod fel oriel, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gymunedol Penmachno. Bydd y rhaglen hon o weithgarwch yn cael ei chyhoeddi’n fuan, a’r gobaith yw cysylltu rhwydweithiau creadigol Mostyn ac Oriel Machno ymhellach.
Ar draws Gogledd Cymru, bydd yr oriel hefyd yn arwain ar gyflwyno rhaglen iechyd a lles i ddod â sesiynau caeedig i grwpiau rhanbarthol ac elusennau ddiwedd yr haf. Dan ofal yr artist hwylusydd Ffion Evans, ynghyd â’r therapydd celf Tiffany Arnold, bydd pobl sy’n weithgar mewn grwpiau sy’n gysylltiedig â’r elusen cymorth iechyd meddwl Conwy Mind a Grŵp Lles Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel rhan o’u Rhaglen Grantiau Cymunedau Gwydn. Prif nod y rhaglen yw rhoi’r cyfleoedd i gymunedau adfer a gwella eu hardaloedd lleol, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, a’r rhai nad oes ganddynt lawer o fynediad i fyd natur.
Dywedodd Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr Mostyn: “Mae’r prosiect Isdyfiant a gefnogir gan CNC yn allweddol i Mostyn ddarparu nifer o weithgareddau a phrosiectau allgymorth ar draws Gogledd Cymru. Gan gynnwys cannoedd o bobl yn ogystal â dwsinau o artistiaid, addysgwyr, gwneuthurwyr, ac ymarferwyr sy’n gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o drigolion o bob oed a chefndir, mae’r prosiect hefyd yn cefnogi cyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae’n brosiect hollbwysig sy’n cael ei yrru gan gymdeithas gyda chelf gyfoes a’r amgylchedd yn fannau cychwyn. Mae’r prosiect yn gobeithio cael effaith gadarnhaol ar gymunedau presennol a dyfodol Llandudno, Penmachno ac ar draws y rhanbarth.”
Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm CNC, Tîm Pobl a Lleoedd y Gogledd Orllewin: “Rydym yn falch o gefnogi’r prosiect hwn fel rhan o’n Rhaglen Grantiau Cymunedau Gwydn. Mae bod yn yr awyr agored a dysgu am yr amgylchedd o fudd i les corfforol a meddyliol ac mae’n cysylltu pobl â natur sy’n adeiladu ymddygiadau cadarnhaol a all helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae hyn yn rhan o’n gwaith i wneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol drwy gefnogi prosiectau sydd o fudd i gymunedau ac amgylchedd Cymru.”
Bydd y sgyrsiau a’r gwaith a grëir yn y rhaglen hon yn siapio arddangosfa bwysig ym Mostyn yn 2024, a fydd yn tynnu ynghyd gweithgarwch o’r digwyddiadau cyhoeddus, o breswyliad Kristin Luke yn Oriel Machno ac o’r sesiynau iechyd a lles.
Cadwch lygad ar eich e-byst, ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth a manylion am sut i archebu lle ar ddigwyddiadau.