Mae Cyfarwyddwr Mostyn, Dr Alfredo Cramerotti, wedi cyhoeddi y bydd yn gorffen ei rôl ddiwedd Rhagfyr 2023.
Ar ôl gwasanaethu am dros 12 mlynedd fel Cyfarwyddwr y sefydliad, mae wedi arwain rhaglen o arddangosfeydd sydd wedi gweld twf esbonyddol yn enw da Mostyn am ddangos celf gyfoes ryngwladol o safon fyd-eang. Mae arddangosfeydd nodedig o dan ei ddaliadaeth wedi cynnwys David Nash, Anselm Kiefer, Ryan Gander, Irma Blank, Bedwyr Williams, Sean Edwards, Sïan Rees Astley, Rebecca Gould, Camille Blatrix, Camille Henrot, Laurence Kavanagh, Mike Perry, Shezad Dawood, Josephine Meckseper, Louisa Gagliardi, Derek Boshier, Mark Gubb, Anj Smith, Jacqueline de Jong, Angharad Williams, Cerith Wyn Evans, Diane Dal-pra, Oren Pinhassi a’r cyflwyniad unigol presennol gan Rosemarie Castoro.
Ochr yn ochr â’i swydd fel Cyfarwyddwr Mostyn, mae Dr. Cramerotti hefyd wedi bod yn Gyd-Gadeirydd Visual Arts Group Wales, ac yn llais blaenllaw o fewn rhwydwaith PlusTate o 48 o leoliadau celf fodern a chyfoes a ariennir yn gyhoeddus yn y DU.
Fel Cyfarwyddwr IKT, Cymdeithas Ryngwladol Curaduron Celf Gyfoes, daeth Dr Cramerotti â dirprwyaeth o dros 65 o guraduron rhyngwladol i Ogledd Cymru yn ddiweddar, lle maent wedi mynychu digwyddiadau ac arddangosfeydd ar draws Gogledd Cymru, yna cafwyd symposiwm o dros 100 o bobl ar gelf a thechnolegau uwch yn Pontio, Bangor.
Mae Dr Cramerotti yn dechrau swydd newydd fel Cyfarwyddwr Media Majlis, amgueddfa celf, cyfathrebu a thechnoleg Prifysgol Northwestern yn Qatar, gan ddechrau yn 2024. Bydd yn darparu cefnogaeth guradurol i Mostyn ar gyfer eu harddangosfeydd sydd i ddod gan Paul Maheke (Gwanwyn 2024) a Noémie Goudal (Haf 2024).
Meddai Dr Cramerotti:
“Gyda chymysgedd o galon drom a chyffro y penderfynais adael Mostyn wrth i gyfle newydd godi yn Doha, lle byddaf yn arwain sefydliad sydd ar y groesffordd rhwng celf, y cyfryngau a thechnolegau uwch. Mae Mostyn wedi bod yn gartref ac yn angerdd i mi ers mwy na degawd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd tîm arwain newydd yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar y sefydliad, ac yn darparu tanwydd pellach i gyrraedd uchelfannau newydd.”
Penodir Clare Harding gan Gyngor yr Oriel i weithredu fel Cyfarwyddwr Dros Dro hyd nes y cynhelir chwiliad recriwtio llawn ac agored am Gyfarwyddwr newydd. Bydd y broses recriwtio yn dechrau ym mis Ebrill, a rhagwelir y bydd y Cyfarwyddwr newydd wedi’i sefydlu erbyn diwedd 2024.
Mae Clare wedi gweithio ym Mostyn ers 6 blynedd mewn amrywiaeth o rolau, gan ymuno â’r tîm i ddechrau fel Curadur Cynnwys Digidol trwy ysgoloriaeth ymchwil PhD a noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, lle bu’n arwain y gwaith o’r trawsnewidiad digidol Mostyn. Am y 2 flynedd ddiwethaf bu’n gweithio fel Pennaeth Marchnata a Datblygu Mostyn, gan gynhyrchu tua £400,000 y flwyddyn o gyllid ar gyfer gwaith cymunedol a phrosiectau arbennig Mostyn. Bydd Clare yn dechrau fel Cyfarwyddwr Dros Dro ar Ionawr 1af 2024.
Meddai Jeremy Salisbury, Cadeirydd Cyngor Oriel Mostyn:
“Diolchwn i Alfredo am ei arweiniad a’i gynghorion dros y 12 mlynedd diwethaf. Rydym i gyd yn ddyledus iddo am ei weledigaeth wrth gymryd a chadw Mostyn ar flaen y gad ym myd y celfyddydau gweledol. Bydd 2024 yn flwyddyn gyffrous yn yr oriel. Nododd ein Hadolygiad Buddsoddi llwyddiannus gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ein gweledigaeth i Mostyn fod yn angor diwylliannol i Ogledd Cymru; canolfan gelf o safon fyd-eang, gyda rhaglen ddysgu ac ymgysylltu gynhwysfawr, haenog a chynhwysol. Bydd y flwyddyn yn dechrau gyda gwaith adnewyddu sylweddol i’r oriel i baratoi ar gyfer Mostyn yn dod yn rhan o rwydwaith Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes Cymru. Mae Mostyn hefyd yn bartner Cymreig ar gyfer ‘The Triumph of Art’, comisiwn daucanmlwyddiant National Gallery London gyda’r artist Jeremy Deller. Byddwn nawr yn gosod y sylfeini angenrheidiol ar gyfer y cynlluniau hyn, ac yn dod o hyd i Gyfarwyddwr newydd i symud Mostyn ymlaen a llywio ein cyfeiriad creadigol.”
Ar gyfer ymholiadau cyfryngau cysylltwch â Nicola Jeffs, [email protected], 07794 694 754