Rydym yn chwilio am gynorthwyydd manwerthu i ymuno â’n tîm yma ym Mostyn.
Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu cryf, sylw i fanylion a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol? Cariad at gelf gyfoes, crefft, dylunio a manwerthu ? Os oes, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
SWYDD DDISGRIFIAD
Cynorthwyydd Manwerthu
Yn atebol i’r: Rheolydd Manwerthu
Yn gyfrifol am: Profiad adwerthu
Contract: Parhaol – 13 awr yr wythnos [2 ddiwrnod – dydd Mawrth a dydd Sadwrn]
Cyfradd yr awr: £7.49 – £10.42 yr awr
Mae’r cyfraddau hyn yn gyson â’r Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
P’un a yw ymwelwyr yn siopa yn y siop neu’n pori ar-lein, mae ein siop yn cynnig casgliad o eitemau wedi’u gwneud â llaw ac wedi’u harwain gan ddyluniad. O lyfrau ac anrhegion creadigol, i ategolion, nwyddau cartref a phrintiau a gynhyrchir gan ein cymuned o grewyr.
Mae’r siop hefyd yn ffurfio’r dderbynfa, gyda staff yn gweithio rôl manwerthu/derbynfa ddeuol, sy’n arbennig o bwysig gan ei fod yn ffurfio cyswllt cyntaf ymwelwyr â staff Mostyn wrth ddod i mewn i’r adeilad.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod ymwelwyr Mostyn yn mwynhau eu hymweliad, ac yn dangos agwedd hyblyg at wahanol gyfrifoldebau’r rôl. Byddant hefyd yn darparu safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid, gan wneud y gorau o’r potensial o gynhyrchu incwm a hyrwyddo’r hyn sydd gan Mostyn i’w gynnig trwy ryngweithio ag ymwelwyr.
Prif ddyletswyddau:
- Croesawu cwsmeriaid a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf am y stoc a gwneud argymhellion i gwsmeriaid.
- Delio ag ymholiadau cwsmeriaid, archebion personol a dychweliadau.
- Ateb ymholiadau yn effeithlon, gan gyfeirio’r rhain at y rheolwr priodol lle bo angen.
- Gweithio’n hyblyg i anghenion y rota, ar draws yr orielau a’r siop.
- Agor a chau’r siop.
- Cloi’r adeilad pan fo angen.
- Prosesu gwerthiannau ac archebion ar-lein, trin a thrafod arian a defnyddio’r system til [POS].
- Cylchdroi ac ailgyflenwi stoc ac arddangosiadau.
- Cynnal safon marchnata weledol.
- Cynorthwyo i dderbyn, prosesu a dychwelyd stoc.
- Sicrhau bod yr holl gofnodion a gohebiaeth yn cael eu diweddaru.
- Ymgymryd â dyletswyddau glanhau a gwagio biniau ac ailgylchu.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a roddwyd i chi gan y rheolwyr.
- Cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch tra ar ddyletswydd.
- Pan fo angen, cynorthwyo yn yr Oriel a rhannau eraill o’r sefydliad* (Rhestrir isod prif ddyletswyddau Cynorthwyydd Blaen Tŷ)
*Cynorthwyydd Blaen Tŷ – prif ddyletswyddau:
- Cyfarch ac ymgysylltu ag ymwelwyr, gan ddarparu safon uchel o wasanaeth cwsmeriaid. Darparu gwybodaeth am arddangosfeydd y presennol a’r dyfodol, yn ogystal â gweithgareddau, digwyddiadau, gwasanaethau a’r cynnig manwerthu.
- Gweithio’n hyblyg i anghenion y rota, ar draws yr orielau a’r siop
- Ymgymryd â dyletswyddau glanhau dyddiol yn dilyn y rota a gofynion rheoli. Sicrhau bod cyfleusterau yn cael eu cyflwyno ar eu gorau a’u cadw’n lân.
- Gwagio’r holl finiau ar draws Mostyn yn ddyddiol, gan ddilyn y rheolwyr a’r rota perthnasol.
- Cloi’r adeilad pan fo angen
- Ateb ymholiadau yn effeithiol, gan gyfeirio’r rhain at y rheolwr priodol lle bo angen.
- Sicrhau diogelwch y gwaith sy’n cael ei arddangos, gan amlygu problemau/materion i’r rheolwyr priodol.
- Cynnal a hyrwyddo teithiau grŵp a sgyrsiau byr ar gyfer grwpiau ac aelodau’r gynulleidfa gyffredinol.
- Sicrhau bod deunydd printiedig yn cael ei gadw’n gyfredol ar draws yr adeilad.
- Ymgymryd â thasgau gweinyddol, yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo gyda Dysgu ac ymgysylltu pan fo angen.
Yn gyffredin â phob swydd, disgwylir i Gynorthwyydd Manwerthu:
- Sicrhau y cedwir at holl systemau, polisïau a gweithdrefnau Mostyn
- Sicrhau diogelwch yr oriel a mannau eraill ym Mostyn
- Gweithredu fel hyrwyddwr Mostyn a hyrwyddo ei weledigaeth a’i weithgareddau
- Cyfrannu a chefnogi’r holl godi arian a bod yn ymwybodol o achos angen Mostyn
- Cydweithio gyda phob adran arall
- Sicrhau y glynir at systemau, polisïau a phrosesau Mostyn wrth gyflawni’r dyletswyddau.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn o ddyletswyddau. Mae’n bosibl y bydd angen cyflawni dyletswyddau rhesymol eraill i gyflawni’r rôl hon yn llwyddiannus ac i gwrdd ag amcanion Mostyn.
Manyleb person:
Gwybodaeth:
Dealltwriaeth o gelfyddydau gweledol cyfoes, crefft a dylunio, a thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus parhaus yn y sector hwn. Diddordeb mewn dod â materion cyfoes drwy’r celfyddydau, crefftau a dylunio yn fyw ac ennyn diddordeb cynulleidfa mor eang â phosibl i fanteision, heriau a chyfleoedd celf gyfoes.
Sgiliau a phrofiad:
- Mae profiad manwerthu blaenorol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
- Sylw i fanylion a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a fydd yn cael ymwelwyr yn dod yn ôl dro ar ôl tro.
- Sgiliau cyfathrebu cryf. Hyderus, huawdl a chyfeillgar, i ysbrydoli ymwelwyr a helpu gyda’u dealltwriaeth o’r gweithiau sy’n cael eu harddangos a gweledigaeth ac amcanion Mostyn.
- Sgiliau rheoli amser rhagorol
- Y gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Sgiliau datrys problemau da a ffordd hyblyg o weithio.
- Y gallu i ddefnyddio Microsoft Word ac Excel yn hyderus.
- Tystiolaeth o weithio gydag ystod amrywiol o gynulleidfaoedd a’r cymhelliant i ymdrechu i wneud argraff dda.
- Nid yw’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon ond byddai’n cael ei gweld fel ased.
Oriau gwaith:
Dyddiau pendant
Dydd Mawrth 10.00yb – 5.00yp [yn cynnwys egwyl cinio 30 munud heb dâl]
Dydd Sadwrn 10.00yb – 5.00yp [yn cynnwys egwyl cinio 30 munud heb dâl]
Bydd disgwyl hefyd i ymgeiswyr llwyddiannus fod yn hyblyg i gyflenwi yn ystod gwyliau staff eraill, ac efallai y bydd gofyniad achlysurol i weithio oriau anghymdeithasol wrth gyflawni’r rôl hon.
Cydraddoldeb:
Mae Mostyn yn annog ceisiadau o bob cefndir, cymuned a diwydiant, ac rydym wedi ymrwymo i gael tîm sy’n cynnwys sgiliau, profiadau a galluoedd amrywiol. Rydym yn annog ceisiadau yn benodol gan bobl anabl a phobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, gan nad yw’r grwpiau hyn wedi’u cynrychioli’n ddigonol yn y sector diwylliannol ar hyn o bryd. Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gweithlu a’r holl gyfleoedd a ddarperir gan Mostyn. Gofynnwn i bawb sy’n gweithio gyda ni hyrwyddo’r uchelgais hon a’i hymgorffori yn eu gwaith o ddydd i ddydd a’i monitro yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb blynyddol. Er bod gan rai o’n swyddfeydd rwystrau i fynediad, rydym yn parhau i annog diddordeb ymgeiswyr sydd angen addasiadau rhesymol yn y gweithle.
Sut i wneud cais:
- Darllenwch y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb person amlinellol.
- Cyflwynwch CV a Llythyr Clawr. Sicrhewch eich bod yn dweud wrthym sut rydych chi’n cwrdd â’r ddealltwriaeth, sgiliau a’r profiad yn y fanyleb person.
- Rhowch enwau, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post llawn a rhifau ffôn dau berson a all roi geirda i chi. Dylai o leiaf un o’r rhain fod yn gyflogwr presennol neu ddiweddaraf i chi.
- Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, os oes gennych unrhyw ofynion penodol neu os hoffech drafod unrhyw agwedd ar y rôl yn gyfrinachol, cysylltwch â Mostyn ar 01492 879201 a byddant yn cyfeirio eich galwad at Barry Morris, Rheolydd Manwerthu. Neu, ebostiwch: [email protected]
- E-bostiwch eich cais at Barry Morris, Rheolydd Manwerthu: [email protected]
- Ni chaniateir unrhyw gais a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn y broses recriwtio.
- Os nad yw’r broses hon yn ddull priodol i chi oherwydd nam neu anabledd, cysylltwch â ni i wneud trefniadau amgen. Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn pob cais.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
5.30pm Dydd Gwener 12fed Mai 2023
Cyfweliadau: Dydd Mercher Mai 17eg 2023