Digwyddiad

Jonathan Baldock, Held, 2026 (Installation View) at Arnolfini. Courtesy of the artist and Arnolfini. Photography by Dan Weill.
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad ein harddangosfa newydd, Held gan Jonathan Baldock Dydd Sadwrn 24 Hydref o 10.30yb – 4.30yp.
Datblygwyd Held gan Arnolfini ym Mryste ac mae’n teithio i Mostyn rhwng 24 Hydref a 13 Chwefror. Mae arddangosfa Baldock yn cynnwys tecstilau, cerameg a cherfluniau a gynhyrchwyd dros ddau ddegawd diwethaf gyrfa Baldock. Wrth galon yr arddangosfa mae Bear Hug, cerflun arth cofiadwy a gomisiynwyd gan Arnolfini a all ddal ymwelwyr yn ei freichiau.
Mae Held dan sylw fel un o ‘Sioeau Gorau i’w Gweld yn y DU yr Hydref hwn’ gan Frieze Magazine a derbyniodd yr arddangosfa adolygiad 5 seren yn The Guardian.
Bydd Baldock yn arwain taith o amgylch yr arddangosfeydd am 2yp, ac yna’n llofnodi copïau o’i fonograff diweddar, Held a gyhoeddwyd gan Arnolfini. Mae mynediad i’n digwyddiadau lansio arddangosfeydd yn ddi-dâl ac maent yn agored i bawb. Bydd gweithdy i blant a theuluoedd, wedi’i ysbrydoli gan waith Baldock, rhwng 11yb a 3yp.
Mae Held wedi derbyn cefnogaeth hael gan Henry Moore Foundation.



