Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Galwad am geisiadau: Ffair Grefftau Cyfoes Gogledd Cymru Dros-Dro

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfres o bum Ffair Grefftau Cyfoes Gogledd Cymru Dros-Dro i’w cynnal ym Mostyn yn Llandudno, Gogledd Cymru.

Bydd y ffeiriau dros dro yn cael eu cynnal yn ein Gofod Prosiect a mynedfa ein hadeilad, ac maen nhw’n gyfle gwych i artistiaid o bob rhan o’r DU gyflwyno gwaith i’w werthu ym Mostyn ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Sadwrn 13eg Gorffennaf 2024
  • Dydd Sadwrn 10fed Awst 2024
  • Dydd Sadwrn 12 Hydref 2024
  • Dydd Sadwrn Tachwedd 9fed 2024
  • Dydd Sadwrn Rhagfyr 14eg 2024

Os ydych chi’n artist, gwneuthurwr, ddylunydd, stiwdio, grŵp neu fusnes deunyddiau celf gallwch ddarganfod mwy am ein ffeiriaur, darllen y telerau ac amodau a gwneud cais am stondin.

Mae ein hadeilad yn gwbl hygyrch ac mae mynediad AM DDIM.

  • Lleoliad: Mostyn, 12 Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AB
  • Agored i’r cyhoedd: 10.30yb- 4.30yp
  • £45 y stondin, fesul Ffair

I ymgeisi

  1. Cwblhewch y ffurflen o’n gwefan yma

  2. Plîs anfonwch e-bost efo 4x delweddau uchel res / ansawdd da o’ch gwaith/nwyddau [dewisol – delwedd 1x o’r stondin flaenorol] i [email protected] wetransfer, dropbox ac ati a ffefrir.

Cyflwynwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau ac e-bostiwch y delweddau erbyn 5yp ddydd Llun 3ydd Mehefin 2024. Ni fydd ceisiadau heb ddelweddau yn cael eu prosesu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, plîs anfonwch e-bost at [email protected]

Ni fyddwn ond yn cadw eich data hyd nes cwblhau’r Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru Dros Dro. Ar ôl eich digwyddiad, bydd eich ffurflen archebu a manylion cyswllt yn cael ei storio’n ddiogel am 6 blynedd at ddibenion archwilio. Byddwn ond yn cysylltu â chi o ran y Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru.

Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gydag unrhyw drydydd parti.

Gwybodaeth

1x bwrdd a bydd un gadair yn cael ei ddarparu.

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn ôl disgresiwn Mostyn.

Yr stondinwyr sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch eich hun wrth osod, tynnu i lawr a staffio eich stondin. Ni all Mostyn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw niwed neu ddifrod a achosir i chi neu unrhyw un arall gan eich stondin.

Rhaid i stondinwyr osod eu stondin eu hunain.  Rhaid i stondinwyr ddod â’u gorchuddion bwrdd, eu propiau a’u harddangosiadau eu hunain.

Bydd modd gosod mannau/stondinau o 8.30yb. Mae’r mynediad llwytho/gollwng yn gyfyngedig y tu ôl a yn y blaen i’r adeilad.

Bydd y gweithgarwch masnachu yn cychwyn am 10.30yb ac yn dod i ben pan fydd y ffair yn cau am 4.30yp. Ni ddylai masnachu ddod i ben cyn 4.30yp.

Rhaid gosod stondinau o fewn y paramedrau penodedig, ac ni ddylent achosi unrhyw rwystr i aelodau’r cyhoedd neu stondinwyr eraill. Cyfrifoldeb y stondinwyr hefyd yw sicrhau bod eu stondin yn cael ei chadw’n daclus ac yn rhydd o unrhyw beryglon baglu, sbwriel ac ati.

Rhaid gosod unrhyw ddodrefn stondin annibynnol [e.e.  standiau, unedau, rheseli ac ati] mewn ffordd ddigonol a gosod pwysau wrthynt yn ôl yr angen.

Ni ddarparir trydan na generaduron, ac ni fydd modd defnyddio’r rhain yn ystod y ffair.

Ar ddiwedd y ffair, mae stondinwyr yn gyfrifol am gael gwared ar y stondin a dodrefn / arddangosiadau’r stondin, eiddo ac ysbwriel. Rhaid i stondinwyr clirio stondinau erbyn 6.00yp.

Y maes parcio agosaf yw Gorsaf Drenau Llandudno, sydd bum munud i ffwrdd ar droed o’r oriel.  Sylwer mai maes parcio talu ac arddangos yw hwn.

Termau

Croesewir ceisiadau am unrhyw gyfuniad o ddyddiadau ar gyfer ein Ffeiriau Dros Dro. Plîs sylwch na allwn warantu lle ym mhob Ffair. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu yn ôl disgresiwn Mostyn.

Gwahoddir ceisiadau gan artist unigol, stiwdios, grwpiau a chyflenwyr deunydd celf.

Plîs rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch pan fyddwch yn archebu eich stondin.

Adolygir y ceisiadau ar sail nifer o feini prawf gan gynnwys ansawdd, cysondeb y gwaith, pris ac amrywiaeth.  

Ni fydd modd rhoi adborth am unrhyw geisiadau aflwyddiannus.

Ni chodir unrhyw dâl comisiwn ar werthiannau, a byddwch chi’n gyfrifol am ddelio ag unrhyw werthiannau.  

Chi sy’n gyfrifol hefyd am eich cyfraniadau treth ac yswiriant gwladol chi

Rhaid i stondinwyr ddarparu tystiolaeth o’u hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus – rhaid rhoi copi o hwn i Mostyn ymlaen llaw.  Yn ogystal, rhaid i stondinwyr gytuno dilyn a bodloni’r holl ofynion iechyd a diogelwch.

Mae’n ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus dalu ffioedd ymlaen llaw ar gyfer pob ffair y maent yn cymryd rhan ynddi erbyn Mehefin 30ain 2024. Bydd stondinwyr yn derbyn anfoneb ynghyd â’u pecyn gwybodaeth.

Ni roddir unrhyw ad-daliadau dan unrhyw amgylchiadau. Ni fydd modd i unrhyw stondinwyr sy’n canslo drosglwyddo eu stondin i drydydd parti.

Ni all Mostyn fod yn gyfrifol am unrhyw golled/neu ddifrod i unrhyw eiddo neu stoc y rhai sy’n arddangos yn y ffair.

Mae stondinwyr yn atebol am yr holl hawliadau sy’n deillio o’u nwyddau a’u gwasanaethau.

Mae Mostyn yn cadw’r hawl i ofyn bod unrhyw gynnwys neu stondin neu ddodrefn stondin y bernir ei fod yn sarhaus, yn amhriodol neu’n beryglus, yn cael ei waredu.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr