Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

Mae MOSTYN yn Llandudno mewn partneriaeth â LUX yn gwahodd artistiaid gweledol a gwneuthurwyr ffilm o Gymru i wneud cais am un comisiwn delwedd symudol.

Mae MOSTYN, mewn partneriaeth â LUX, yn dymuno comisiynu gwaith celf delwedd symudol newydd gan artist gweledol / gwneuthurwr ffilmiau o Gymru. 

Gwahoddir artistiaid a gwneuthurwyr gweledol, sy’n gweithio naill ai’n unigol neu mewn cydweithrediad, i gyflwyno cynnig am waith delwedd symudol sy’n ymateb i gasgliad cyfoes cenedlaethol Cymru. Gallwch archwilio’r casgliad trwy Celf ar y Cyd, dnodd ar-lein newydd sy’n cael ei ddatblygu a’i boblogi fel rhan o oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru.

Gofynnwn i’ch cynnig gael ei ysgogi naill ai gan waith celf, artist neu thema a gynrychiolir yn y casgliad. Gallai hyn fod o ddiddordeb penodol i’ch ymarfer neu’n berthnasol i’ch cymuned, eich tirwedd neu’ch treftadaeth ddiwylliannol.

Nod y comisiwn hwn yw codi ymwybyddiaeth o waith delweddau symudol artistiaid o fewn cyd-destun Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, ac ysgogi deialog am y ffyrdd y gall y casgliad fod o fudd i artistiaid a chymunedau yng Nghymru.

Bydd y comisiwn yn cael ei arddangos ar wefan MOSTYN, ynghyd â lansiad dangosiad yn yr oriel, ac i gyd-fynd â digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd i’w gytuno gyda’r artist a ddewiswyd. 

Sylwch y bydd angen i’r artist neu ei ystâd glirio hawlfraint ar gyfer unrhyw ddefnydd neu atgynhyrchu posibl o weithiau yn y casgliad (neu elfennau ohonynt). Bydd Mostyn yn cefnogi’r artistiaid a gomisiynwyd gyda hyn, yn ogystal â chynnig cymorth curadurol a chynhyrchu mewn ffyrdd eraill. 

Cyflwyniadau

Dylid anfon cyflwyniadau at [email protected] gyda’ch enw llawn_Comisiwn OCGGC ar y llinell pwnc a dylent gynnwys y canlynol:

  • Llythyr (uchafswm o 500 gair) neu recordiad sain neu fideo 4 munud ar y mwyaf yn amlinellu’r agwedd a’r diddordeb yn y cyfle
  • Dolenni i 2 enghraifft o waith diweddar blaenorol (hyd at 15 munud ar gyfer gwaith delwedd symudol i gyd)
  • Datganiad artist byr, bywgraffiad neu CV ar gyfer pob ymarferwr sydd wedi’i gynnwys yn eich cynnig (1 tudalen ar y mwyaf)
  • Manylion cyswllt

Os oes angen cymorth arnoch i gyflwyno’ch cais gallwch anfon e-bost at [email protected] neu ffoniwch 01492 879201

Ni ddylai cyfanswm maint y ffeil fod yn fwy na 6mb.

Y dyddiad cau ar gyfer y cyfle hwn yw 11 Mawrth 2024 

Sylwch y bydd hawliau’r gwaith yn aros gyda’r artist(iaid) a ddewiswyd ac ni fydd yn rhan o gasgliad Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru.

Cyllideb

Cyfanswm cyllideb comisiynu: £6,500 yn cynnwys yr holl gostau a TAW.

Bydd y ffi yn cynnwys ffi artist, a chostau cynhyrchu, i’w trafod gydag artist(iaid) a gomisiynir.

Bydd MOSTYN a LUX yn cynnig cefnogaeth ar gyfer gweithgaredd ymgysylltu, cyngor cynhyrchu, arweiniad curadurol a chysylltiadau defnyddiol lle bo angen. 

Amserlen

  • Llunio rhestr fer o geisiadau 12fed-13eg Mawrth
  • Cyfweliadau wythnos yn dechrau ar 25 Mawrth
  • Cyhoeddi comisiwn wedi’i ddyfarnu yn ystod yr wythnos cyn 1 Ebrill
  • Gwaith i’w lansio ar-lein Hydref 2024, i’w gadarnhau
  • Hyd presenoldeb ar-lein i’w drafod gyda’r artist (lleiafswm 4 wythnos) 

Partneriaid

Mae MOSTYN yn oriel gyhoeddus am ddim yn Llandudno, Cymru, sy’n cyflwyno rhaglen o gelf gyfoes ryngwladol eithriadol o fewn ei horielau ac ar-lein. Mae’r rhaglen hon yn ddiweddar wedi cynnwys arddangosfeydd unigol gan Cerith Wyn-Evans, Jacqueline de Jong, Nick Hornby, Chiara Camoni, Anj Smith, Nobuko Tsuchiya, Derek Boshier, Louisa Gagliardi a Shezad Dawood. Mae Mostyn yn cynnig rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n cynnwys sgyrsiau, teithiau a gweithdai, ac yn cefnogi dros 400 o artistiaid trwy eu siop ar y safle ac ar-lein. Mae Mostyn yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn rhan o Plus TATE, rhwydwaith celf weledol gyfoes y DU gyfan.

Mae LUX yn sefydliad celfyddydol ac amgueddfa ar gyfer cefnogi a hyrwyddo artistiaid gweledol sy’n gweithio gyda’r ddelwedd symudol. Fe’i sefydlwyd fel elusen yn 2002 ac mae’n adeiladu ar waith y sefydliadau a’i rhagflaenodd, y London Filmmakers Co-operative, London Video Arts a’r Lux Centre a hanes sy’n ymestyn yn ôl i’r 1960au. Mae LUX yn cynnig rhaglen dreigl o arddangosfeydd, dangosiadau, gweithdai, cyrsiau a sgyrsiau yn ogystal â llyfrgell gyfeirio a thec cyfryngau. Mae LUX hefyd yn cynrychioli’r unig gasgliad arwyddocaol yn y DU o weithiau delwedd symudol a gynhyrchwyd gan artistiaid gweledol yn dyddio o’r 1920au hyd heddiw, yn cynnwys dros 6000 o weithiau gan fwy na 1500 o artistiaid.

Mae menter Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru yn cael ei datblygu fel model partneriaeth gan Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol i Gymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Davies yn y Drenewydd, Storiel ym Mangor, Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefft Rhuthun, Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe. Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru. Un o nodau allweddol y fenter yw sefydlu rhwydwaith o bartneriaid er mwyn cael mynediad ehangach at weithiau celf o’r casgliad cenedlaethol a’u mwynhau.

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr