Ar agor Dydd Mawrth – Sadwrn, 10:30yb – 4:30yp Mynediad am ddim

Menu

QUEER IS NOT A LABEL – Cyfres o chwech perfformiadau ar-lein

Fideo

Mae QUEER IS NOT A LABEL yn gyfres o ddigwyddiadau ar y groesffordd rhwng celf, cerddoriaeth a pherfformio, a gychwynnwyd a sefydlwyd ym Mharis yn 2019 gan Kévin Blinderman (artist, curadur) a Paul-Alexandre Islas (artist, gweithiwr rhyw, DJ), sy’n cefnogi a ddathlu artistiaid radical sy’n cwestiynu rhywedd. Ar gyfer y cydweithrediad hwn â MOSTYN, mae’r gyfres yn cynnwys perfformiadau ar-lein gan NoemiDJ FingerblastNuh PeaceBunny IntonamorousNeurokill, a TRISTAN.
Yn seiliedig ar adeiladu cymuned a chydweithio, mae’r prosiect crwydrol hwn yn ceisio cwestiynu a dadadeiladu strwythurau heteronormyddol patriarchaidd. Wedi’u gysylltu â’r rhyngrwyd ers plentyndod, mae’r artistiaid yn cael eu buddsoddi mewn gwahanol fathau o genres cerddorol. Maent yn samplu, cynhyrchu, dwyn, ailgymysgu ac ystumio, yn ffurfio gludweithiau cerddorol cymhleth. Ymhlith yr artistiaid a wahoddwyd yn flaenorol mae Slutara, Moesha 13, Cherry B. Diamond, Absent Fathers, In My Talons, Chapelle, Loft, Jules Du Coeur, Sxmbra, Giek_1, Drame Nature, Baile De Chernobyl, Bulma, Bilej Kluk, Nastia 6.9, DogHeadSurigeri a Urami.
Mae Kévin Blinderman (g. 1994) yn artist a churadur sy’n byw rhwng Berlin a Paris. Astudiodd Gelf Gain yn Ecole Nationale Supérieur d’Arts de Paris/Cergy, Paris ac yn Bezalel Academy of Fine Arts, Tel-Aviv. Mae ei waith wedi chael ei gyflwyno yn y ‘No Dandy, No Fun’, Kunsthalle Bern, y Swistir, 2020; ‘Studio Berlin’, Berghain wedi’i guradu gan yr Boros Collection, 2020; Le Plateau Frac Ile-de-France, Paris, 2018; Galerie Sultana, Paris, 2020; ac yn yr Istanbul Contemporary Art Fair, 2019. Ar hyn o bryd mae’n rhan o’r Berlin Program for Artists (BPA) tan ddiwedd 2021.
Mae Paul-Alexandre Islas (URAMI) (g. 1994) yn artist, DJ a gweithiwr rhyw sy’n byw ym Mharis. Fe wnaethant astudio Celf Gain yn yr Ecole Nationale Supérieur d’Arts de Paris/Cergy. Mae eu gwaith wedi’i gyflwyno yn “Boddys”, Bonny Poon, Paris, 2018; “Schengen Baroque Pasolini”, Converso, Milano, 2019; Galerie Sultana, Paris, 2020. The Opioid Crisis Lookbook, 2020 Maent yn DJ yn La Machine du Moulin Rouge, Paris, Trauma Bar a Kino, Berlin.

T R I S T A N 

Mae’r artist Ffrengig o Frwsel, T R I S T A N, yn cynhyrchu cerddoriaeth ddwfn wedi’i dadadeiladu, wedi’i hailadeiladu dros cerddoriaeth amgylchynol galed, rap, pop a trap melodig. Gwrandewir ar ei gymysgeddau mewn ffordd sinematograffig, gan ganiatáu i’r cyfuniad o genres a hunaniaethau lluosog hyn i gael eu clywed.

Noemi

Mae Noemi yn gyd-sylfaenydd BCAA, platfform DJ/llif byw, oriel, podlediad, label artist wedi’i leoli ym Mhrâg. Mae hi’n rhan o Blazing Bullets, casgliad o DJs ac artistiaid AV sy’n darlledu eu cymysgeddau ar Facebook. Daeth Noemi i’r amlwg o olygfa electronig genedigol Ewropeaidd ac mae’n creu synau lle mae hi’n mynd â’r gwrandäwr ar daith gyda breuder ymosodol.

DJ FINGERBLAST 

Mae DJ Fingerblast, o Lundain,  yn ffigwr blaenllaw yn yr olygfa Donk newydd sy’n dod i’r amlwg, genre cerddoriaeth ddawns sydd wedi dod allan o’r DU yn cymysgu synau craidd caled, wedi’u gorchuddio â MC-ing manig, annealladwy a’r sain “donk” ei hun.

Nuh Peace 

Wedi’u leoli yn Bangkok, mae Nuh Peace yn DJ, dylunydd ffasiwn, actifydd a brenhines drag ôl-rhyngrwyd. Mae eu sain a’u gweledigaeth yn trawsnewid ac yn ailffurfio cyflwr cyd-destun cyfalafol awdurdodaidd Bangkok ac yn cynrychioli’r QPOC o dan y strwythur cymdeithasol gormesol. Mae Nuh Peace yn rhan o ieuenctid anhysbys De Ddwyrain Asia sy’n llunio’r byd newydd.

Bunny Intonamorous 

Yn cael eu adnabod o dan sawl arallenw fel DJ Netflex, DJ Air Dnb, Bunny Intonamorous, a elwir hefyd yn Medulasa, maent yn artist toreithiol o Fanceinion sydd hefyd yn gweithio gan ddefnyddio llwyfannau ar-lein (Soundcloud, grwpiau cerddoriaeth electronig avant-garde Facebook). Gyda’u cynyrchiadau melodig a dramatig, mae eu cymysgeddau bob amser yn cael eu harwain at wastadeddau sain anhysbys.

Neurokill

Artist gweledol, DJ, actifydd traws, dylunydd, mae gwaith Neurokill o Fecsico yn cael ei nodi gan esthetig gôr. Mae ei gymysgeddau wedi’u hysbrydoli gan Techno a rythmau Chyn-Sbaenaidd, wrth graidd yr olygfa electronig newydd LatinX.

 

Keep updated

Byddwch y cyntaf i glywed am arddangosfeydd, digwyddiadau & gweithgareddau

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr