Digwyddiad
Ymunwch â ni ym Mostyn ddydd Sadwrn, 11eg Gorffennaf i ddathlu agoriad ein harddangosfeydd newydd ac yna sgwrs rhwng yr artistiaid Umulkhayr Mohamed a Radha Patel o DARCH a Rafael Pérez Evans:
Lansiad yr Arddangosfa
10.30yb – 4.30yp
Artistiaid mewn Sgwrs
11.30yb – 12.30yp
Rafael Pérez Evans: Nodiadau Brown
Mae Nodiadau Brown yn arddangosfa unigol gan yr artist Sbaenaidd-Gymreig Rafael Pérez Evans, sy’n dwyn ynghyd wydr wedi’i chwalu, cerfluniau parod, planhigion byw a sain i archwilio undod a herfeiddiad o dan bwysau gofal sy’n methu.
Mae’r teitl yn benthyg o fyth y “nodyn brown”: amledd is-sain y credir ei fod yn achosi colli rheolaeth corfforol yn anfwriadol. Yn yr arddangosfa, mae’r dirgryniad isel, di-ildio hwnnw’n rhoi ffurf i ofn a achosir gan y wladwriaeth: y pwysau acíwt o ddibynnu ar systemau sydd wedi’u gor-ymestyn ac yn tynnu cymorth.
Cefnogir Brown Notes gan The Henry Moore Foundation, Swyddfa Materion Diwylliannol a Gwyddonol (OCSA) Llysgenhadaeth Sbaen, Sefydliad Cervantes yn Llundain, a CELF. Cefnogir ymchwil doethuriaeth Rafael gan ysgoloriaeth ymchwil Open-Oxford-Cambridge AHRC DTP ac ysgoloriaeth The Queen’s College, Rhydychen.
Diolch arbennig i Ezra Badou am gefnogaeth ddramatig, Lola Pederson am gymorth cynhyrchu, y peiriannydd sain Adam Ben David a Jon Roome, a’r Ruskin School of Art.
DARCH: Annwn
Mae Annwn yn arddangosfa gan DARCH, sef ymarfer cydweithredol yr artistiaid anabl o Gymru, Umulkhayr Mohamed a Radha Patel. Mae eu gwaith yn chwilio am ffyrdd creadigol o fynegi arferion sy’n canolbwyntio ar ofal ar gyfer pobl o liw, gyda dull sy’n seiliedig ar undod a rhyddhad.
Gan gyffwrdd â chysyniadau bywyd ar ôl marwolaeth, y berthynas rhwng bywyd a marwolaeth, a’r angen i gydnabod llafur rhywogaethau eraill, mae DARCH yn gofyn inni ystyried y pridd a’r creigwely sy’n ei gynnal fel gofod a rennir yn gyfartal ymhlith pob rhywogaeth – planhigion, anifeiliaid – a’n hynafiaid, dynol a mwy na dynol – ac un y gallwn ar y cyd ddod â byd mwy tyner a mwy tosturiol i fodolaeth drwyddo.
Mae’r arddangosfa hon yn herio’r dirywiad trefedigaethol sy’n gysylltiedig â’r tanddaear, a ystyrir yn aml yn haen olaf uffern yng nghrefyddau Abraham a Dharmaidd. Yn lle hynny, mae DARCH yn cyflwyno’r gred bod y nefoedd – nid uffern – yn y ddaear o dan ein traed, a’i bod yn sanctaidd oherwydd ei bod yn dal bywyd a marwolaeth mewn cylch diddiwedd.
Cyd-gomisiynwyd ‘Annwn yn wreiddiol ar gyfer Biennale Lerpwl 2025, BEDROCK, gan At The Library/Rule of Threes Arts a Biennale Lerpwl, gyda chefnogaeth hael gan FACT Liverpool.





